/** * https://gist.github.com/samthor/64b114e4a4f539915a95b91ffd340acc */ (function() { var check = document.createElement('script'); if (!('noModule' in check) && 'onbeforeload' in check) { var = false; document.addEventListener('beforeload', function(e) { if (e.target === check) { = true; } else if (!e.target.hasAttribute('nomodule') || !) { return; } e.preventDefault(); }, true); check.type = 'module'; check.src = '.'; document.head.appendChild(check); check.remove(); } }());

Covid: 'Oedi yn y paratoadau a diystyru mesurau'

  • Cyhoeddwyd
Pynciau cysylltiedig
Arwydd rheolau covid
Disgrifiad o’r llun,

Roedd gan Gymru reolau ei hun yn ystod y pandemig, oedd yn cael eu penderfynu gan Lywodraeth Cymru

Mae Prif Swyddog Meddygol Cymru wedi gwadu nad oedd digon o sylw wedi bod ar baratoi ar gyfer pandemig posib cyn i Covid daro ond fe ychwanegodd bod rhai mesurau paratoi wedi cael eu diystyru yn rhy gynnar.

Wrth roi tystiolaeth i ymchwiliad i Covid-19 y Deyrnas Unedig, dywedodd Dr Frank Atherton ar "lefel swyddogol bod llawer o waith wedi' wneud o ran paratoi".

Pan ofynnwyd ymhellach iddo a allai Cymru fod wedi gwneud rhagor, dywedodd bod hynny'n gwestiwn dilys ond bod yna gryn baratoi wedi digwydd.

"Yn sicr ar lefel swyddogol roedd yna lawer yn digwydd... paratoi i ymateb ar frys," meddai.

Frank Atherton
Disgrifiad o’r llun,

Prif Swyddog Meddygol, Frank Atherton, yn rhoi tystiolaeth i'r ymchwiliad ddydd Llun

Ond wrth gael ei holi am fframwaith Hydref 2014 i ddelio gydag achosion mawr o glefydau heintus, cadarnhaodd Mr Atherton nad oedd fawr o drafodaeth wedi bod ar ddelio gyda chlefydau heintus a allai fod â chanlyniadau difrifol - heintiau ar wahân i'r ffliw.

"Fe gafodd y mater hyn ei drafod, wrth gwrs, ond ei ddiystyru am nifer o resymau," meddai.

"O edrych yn ôl a gweld be' ddigwyddodd fe allen fod wedi, a dylen fod wedi, rhoi mwy o sylw i gwestiynau 'beth petai... beth petai'r feirws yn wahanol">