/** * https://gist.github.com/samthor/64b114e4a4f539915a95b91ffd340acc */ (function() { var check = document.createElement('script'); if (!('noModule' in check) && 'onbeforeload' in check) { var = false; document.addEventListener('beforeload', function(e) { if (e.target === check) { = true; } else if (!e.target.hasAttribute('nomodule') || !) { return; } e.preventDefault(); }, true); check.type = 'module'; check.src = '.'; document.head.appendChild(check); check.remove(); } }());

Ffos-y-fran i roi'r gorau i gloddio ddiwedd Gorffennaf

  • Cyhoeddwyd
Ffos-y-FranFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Fe ddechreuodd y cwmni gloddio'r safle yn 2007, ar drwydded oedd yn para 15 mlynedd

Mae'r gwaith glo brig mwyaf yn y Deyrnas Unedig ger Merthyr Tudful wedi cael gwybod bod yn rhaid rhoi'r gorau i gloddio yno erbyn diwedd Gorffennaf.

Cafodd gorchymyn gorfodaeth ar safle Ffos-y-fran ei gyhoeddi ym mis Mai, yn dweud bod yn rhaid i'r gwaith ddod i ben.

Yn ôl Cyngor Merthyr Tudful bydd y gorchymyn yn dod i rym ar 27 Mehefin ac yna mae gan y cwmni 28 diwrnod i sicrhau eu bod yn cydymffurfio.

Mae yna drafodaethau hefyd yn cael eu cynnal ynglŷn â strategaeth o ran adferiad y dirwedd.

Yn Ebrill, penderfynodd pwyllgor cynllunio'r sir i wrthod cais i ymestyn oes y safle tan Mawrth 2024.

Dywedodd y cwmni cloddio, Merthyr (South Wales) Cyf, fod angen y glo ar gyfer y diwydiant dur.

Dadl swyddogion cynllunio'r sir oedd nad oedd y cwmni wedi rhoi tystiolaeth ddigonol i gefnogi eu hachos.

Roedd y cwmni hefyd am oedi'r cynllun i adfer tirwedd y safle tan fis Mehefin 2026.

gwaith glo brigFfynhonnell y llun, Matthew Horwood/Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Safle glo brig Ffos-y-fran yw'r mwyaf o'i fath yn y DU

Fe wnaeth cynllun adfer Ffos-y-fran lwyddo i sicrhau hawl cynllunio yn 2005, gyda'r gwaith cloddio am 11 miliwn tunnell o lo yn dechrau dwy flynedd yn ddiweddarach.

Nod arall y cynllun oedd adfer gwyrddni'r safle er budd y gymuned wrth i'r gwaith cloddio fynd yn ei flaen.

Ond mae Merthyr (South Wales) Cyf wedi cyfaddef nad oes digon o arian wedi ei neilltuo ar gyfer cwblhau'r gwaith adfer, a bod angen mwy o amser i gytuno ac ymgynghori ar gynllun adfer newydd.

Pynciau cysylltiedig