Iechyd meddwl: Dau wely yn Lloegr 'ddim yn ddigon' i famau'r gogledd
- Cyhoeddwyd

Mae gan Nia Foulkes anhwylder deubegynnol (bipolar) ac fe dreuliodd gyfnod mewn uned iechyd meddwl yn Lloegr
Mae pryderon nad yw cynllun i yrru mamau o'r gogledd gyda chyflyrau iechyd meddwl i uned newydd yng Nghaer yn ateb gofynion yr ardal.
Bydd dau wely mewn uned yn Ysbyty Iarlles Caer yn cael eu cadw i gleifion o'r rhanbarth, sydd ar hyn o bryd yn gallu cael eu gyrru i unedau mor bell i ffwrdd â Nottingham.
Ond yn ôl gwleidyddion ac ymgyrchwyr, dydy dau wely mewn ysbyty dros y ffin ddim yn ddigon ac mae 'na amheuon am ddarpariaeth Gymraeg.
Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr yn dweud eu bod wedi modelu'r cynllun yn "ofalus iawn" ac y bydd sefyllfa'r Gymraeg yn "gryfach" yn yr uned newydd.
Mae gan Nia Foulkes o Ruthun yn Sir Ddinbych anhwylder deubegynnol (bipolar), ac fe gafodd driniaeth yn Uned Mam a Babi Manceinion ar ôl genedigaeth ei mab, Gwilym, yn 2019.
Roedd yn le diogel yn ôl Ms Foulkes, ond roedd 'na anawsterau o ran iaith a'r pellter o adref.
"Pan dwi 'di cael relapses o'r blaen efo bipolar, dwi wastad 'di mynd i siarad Cymraeg efo pawb," meddai.
"So pan o'n i ym Manceinion ro'n i'n ffeindio fo'n anodd peidio gallu siarad Cymraeg, ac roedd fy nheulu i'n bell hefyd."

Nia Foulkes yn siarad yn 2021 am ei phrofiad o dreulio cyfnod mewn uned iechyd meddwl ym Manceinion

Ar ôl gwella, dechreuodd Ms Foulkes ymgyrchu am uned o'r fath yn y gogledd, i gydfynd ag Uned Gobaith yng Nghastell-nedd Port Talbot, sydd ar stepen drws mamau yn y de.
Ers hynny mae hi wedi cyfrannu at y cynlluniau i gadw dau wely i ferched o'r gogledd yn yr uned wyth gwely newydd yn Ysbyty Iarlles Caer, a ddylai agor yn 2024.
Bydd rhywfaint o ddarpariaeth Cymraeg yno, gan gynnwys arwyddion dwyieithog a llinell gymorth fydd ar gael drwy'r amser, a bydd blaenoriaeth i ymgeiswyr sy'n siarad yr iaith wrth lenwi swyddi.
Yn ôl Ms Foulkes mae'n gam yn y cyfeiriad cywir - ond mae'n mynnu nad dyma'r hyn roedd hi wedi ymgyrchu drosto.
"Dwi jyst yn poeni os mae rhywun o Loegr angen y gwely Cymraeg, ydyn nhw'n fynd i'w gadw fo [i gleifion o'r gogledd]">