/** * https://gist.github.com/samthor/64b114e4a4f539915a95b91ffd340acc */ (function() { var check = document.createElement('script'); if (!('noModule' in check) && 'onbeforeload' in check) { var = false; document.addEventListener('beforeload', function(e) { if (e.target === check) { = true; } else if (!e.target.hasAttribute('nomodule') || !) { return; } e.preventDefault(); }, true); check.type = 'module'; check.src = '.'; document.head.appendChild(check); check.remove(); } }());

Ateb y Galw: Hywel Pitts

  • Cyhoeddwyd
Hywel Pitts yn perfformio gyda criw CabarelaFfynhonnell y llun, Hywel Pitts
Disgrifiad o’r llun,

Hywel Pitts yn perfformio gyda criw Cabarela

Hywel Pitts o Lanberis sydd yn Ateb y Galw'r wythnos yma ar ôl cael ei enwebu gan Mared Llywelyn wythnos ddiwethaf.

Mae Hywel yn gerddor ac yn ddigrifwr sydd wedi bod yn perfformio caneuon dychanol ers 2012. Mae o'n aelod o griw Cabarela ac o'r band I Fight Lions, ac yn cyd-gyflwyno'r podlediad Podpeth.

Linebreak

Beth ydi dy atgof cyntaf?

Mam yn canu Tri o'r Gloch y Bore gan Sobin a'r Smaeliaid. Does 'na'm delwedd yn fy mhen i gyd-fynd efo'r atgof, felly dw i'n cymryd mai trio fy suo i gysgu oedd hi. Fwy na thebyg am dri o'r gloch y bore.

Dy hoff le yng Nghymru a pham?

Llanberis, oherwydd pa mor hurt o ddel 'di'r lle, a'r holl atgofion sydd gen i o dyfu i fyny yn y pentref.

Y noson orau i ti ei chael erioed?

Noson fy mhriodas. Mi fuon ni'n ffodus iawn achos mi godwyd y cyfyngiadau Covid 'chydig ddiwrnodau cyn y diwrnod mawr, oedd yn golygu bod pawb yn gallu bod yno efo ni ar ôl yr holl ansicrwydd. Fel y gallwch chi ddychmygu, roedd 'na hwyliau da iawn ar bawb achos roedd o'r parti cyntaf i bawb fod iddo fo mewn bron i ddwy flynedd. Llond ystafell o bobl o'n i'n eu caru, yn dathlu'r ffaith 'mod i newydd briodi'r hogan o'n i'n ei charu - mae hi'n anodd curo honno fel noson orau, a 'swn i'm yn newid dim byd amdani. Heblaw am y ddawns gyntaf…

Hywel a'i wraig Elin ar ddiwrnod eu priodasFfynhonnell y llun, Hywel Pitts
Disgrifiad o’r llun,

Hywel a'i wraig Elin ar ddiwrnod eu priodas

Disgrifia dy hun mewn tri gair.

Boi digon clên.

Pa ddigwyddiad yn dy fywyd sy' o hyd yn neud i ti wenu neu chwerthin pan ti'n meddwl nôl?

Ychydig ddyddiau ar ôl perfformiad eiconig Dafydd Iwan o 'Yma o Hyd' yn y gêm rhwng Cymru ac Awstria, roedden ni ar stag-dw fy mrawd yng Nghaerdydd. Roedden ni wedi bod yn brysur yn mwynhau ein hunain drwy'r dydd ac, i ddod â'r noson i ben mewn steil, roedden ni wedi llogi bwth carioci mewn clwb nos nid anenwog.

Felly, dyma ni'n cyrraedd - criw mawr o ddynion yn ein tridegau yn bennaf, ac yn ein plith oedd Dad. Wrth i ni ymlwybro drwy'r goleuadau disgo tua'r bwth, pwyntiodd y DJ at fy nhad a dweud, It's him, isn't it?. Roedd o'n meddwl mae Dafydd Iwan oedd o! Roedd Dad yn gandryll, achos mae o rhyw ugain mlynedd yn iau na DI. Nath o'm cywiro nhw chwaith, a nath o'm talu am ddiod drwy'r nos.

Y Dafydd Iwan go iawn yn canu Yma o Hyd yn Stadiwm Dinas CaerdyddFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Y Dafydd Iwan go iawn yn canu Yma o Hyd yn Stadiwm Dinas Caerdydd

Beth oedd y digwyddiad a gododd y mwya' o gywilydd arnat ti erioed?

Y ddawns gyntaf yn fy mhriodas. Mae Elin (fy ngwraig) yn ffan mawr o Friends, ac roedd hi 'di cael y syniad yn ei phen y dylsen ni wneud The Routine ddawnsiodd Monica a Ross ar y rhaglen. Gormod o win, dim digon o bracdis - o'n i'n dawnsio fel Tony Adams ar Strictly.

Pryd oedd y tro diwethaf i ti grïo?

Ddoe, yn gwylio adfyrt dolig.

Linebreak
Linebreak

Oes gen ti unrhyw arferion drwg?

Dw i'n treulio gormod o amser ar y cyfryngau cymdeithasol; a dw i'n un drwg am glicio ar bethau dw i'n gwybod sydd am fy nghorddi. "Dew, ma'r Parc Cenedlaethol wedi penderfynu defnyddio enwau Cymraeg yn unig ar Eryri a'r Wyddfa! S'gwn i be s'gen 'BrexitBrian88' i ddweud am y peth">