/** * https://gist.github.com/samthor/64b114e4a4f539915a95b91ffd340acc */ (function() { var check = document.createElement('script'); if (!('noModule' in check) && 'onbeforeload' in check) { var = false; document.addEventListener('beforeload', function(e) { if (e.target === check) { = true; } else if (!e.target.hasAttribute('nomodule') || !) { return; } e.preventDefault(); }, true); check.type = 'module'; check.src = '.'; document.head.appendChild(check); check.remove(); } }());

Capel Soar y Mynydd yn ail agor am y tro cyntaf ers Covid

  • Cyhoeddwyd
Soar

Fe fydd gwasanaethau yn ail-ddechrau yn un o gapeli mwyaf eiconig ac anghysbell Cymru ar ôl cau'r drysau yn ystod y pandemig.

Cafodd capel Soar y Mynydd ei godi ym 1822 rhwng Tregaron a Llyn Brianne, i wasanaethu ffermwyr mynyddoedd y Cambrian.

Roedd hefyd yn cael ei ddefnyddio gan y porthmyn wrth iddyn nhw yrru defaid tuag at farchnadoedd Llundain.

Ond roedd gan yr ardal gysylltiad ysbrydol ers cyn adeiladu'r capel.

Cyril Evans
Disgrifiad o’r llun,

Cyril Evans yw Cadeirydd Cymdeithas Hanes Tregaron ac mae'n dweud bod lleoliad a hanes y capel yn arbennig

"Ma'r lle 'ma wedi bod yn ysbrydol ers miloedd o flynyddoedd. Ma gyda chi'r carneddau sydd ar gopaon y bryniau lleol yn coffau beddrodau, hefyd mae gyda chi'r meini hir.

"Wrth gwrs nepell o fan hyn mae gyda chi Abaty Ystrad Fflur felly allwch chi ddim mynd yn fwy ysbrydol 'na hynny.

"Ar y dechrau roedd pobl yn teithio o un ffermdy i'r llall. Pregethwyr mawr fel Howell Harris a Daniel Rownland yn cwrdd mewn ffermdai, cynnal cwrdd gweddi ac wrth gwrs mewn ceginau eitha' bach.

"Wrth gwrs wrth i'r gynulleidfa dyfu roedd angen mwy o le ac felly fe gafodd les ei roi ar yr adeilad yma ac fe gafodd y tir ei roi gan deulu Nantllwyd."

Soar
Disgrifiad o’r llun,

Does dim signal ffôn na gwres i gael yn yr adeilad

Mae cyrraedd y capel yn brofiad yn ei hun. Mae'n 9 milltir i'r dref agosaf, Tregaron. Yr heol cul a throellog ar hyd y mynydd yw'r unig ffordd i gyrraedd y capel, gyda defaid yn pori ar y bryn a'r barcud coch yn teyrnasu yn yr awyr.

Ond unwaith i chi gyrraedd, mae Soar y Mynydd yn fan tawel, heddychlon, lle mae 'na lonyddwch i weddïo.

Mae'r adeilad gwyngalchog yn eich croesawu ynghanol y môr o wyrdd a brown o goed a phorfa. Does dim yno i ddenu'ch sylw, dim trydan, dim signal ffôn. Does dim gwres chwaith.

Arwydd ffordd Tregaron yn dangos naw milltir
Disgrifiad o’r llun,

Tregaron yw'r dref agosaf i'r capel ac mae'n naw milltir i ffwrdd

Mae niferoedd sy'n mynychu'r capel wedi gostwng dros y blynyddoedd. Rhyw 10-12 o bobl sy'n dod i'r gwasanaethau yn rheolaidd ac mae'r capel ar gau yn ystod y gaeaf, gyda'r amodau yn ei gwneud hi'n anodd i deithio yma.

Ond mae'n stori wahanol yn ystod misoedd yr haf, wrth i bobl deithio i Soar o bedwar ban byd. Roedd cyn arlywydd America, Jimmy Carter, wedi ymweld â'r lle yn 1986 tra ar ei wyliau yn yr ardal.

Mae tymor y gwasanaethau haf hefyd yn denu ymwelwyr. Pererinion ac addolwyr yn teithio i'r man anghysbell yma mewn niferoedd.

Ond am ddwy flynedd roedd yn rhaid cau drysau'r capel oherwydd Covid. Ddydd Sul, 8 Mai, fydd y tro cyntaf y bydd gwasanaeth yn cael ei gynnal ers y pandemig.

Lyn Ebenezer fydd yn arwain y gwasanaeth hwnnw.

Lyn Ebenezer
Disgrifiad o’r llun,

Bydd y gwasanaeth cyntaf ers cyn y pandemig yng ngofal Lyn Ebenezer ac fe ddisgrifiodd fel "braint"

"Wel bob tro dwi'n dod i Soar y Mynydd mae e fel chwa o awel iach, yn llythrennol. Mae'r awel yn burach lawer fan hyn nac ar lawr gwlad.

"Ond mae cael dod nol i ail-agor Soar ar ôl dwy flynedd nid yn unig yn bleser ond yn fraint.

"Dwi'n teimlo braint dim ond dod 'ma, ond mae cael pregethu yma hefyd, hwn dwi'n credu bydd y trydydd neu'r pedwerydd tro i fi cael gwneud, ond y tro cynta' i fi gael agor y tymor, felly dwi'n teimlo'n dipyn o foi."

"Ma nhw'n dod o bob rhan o Gymru ac o Loegr a dweud y gwir. Dwi wedi clywed pobl yn dweud 'gimmick yw hwn, pam mynd lan fan 'na, 10 milltir o Dregaron">