/** * https://gist.github.com/samthor/64b114e4a4f539915a95b91ffd340acc */ (function() { var check = document.createElement('script'); if (!('noModule' in check) && 'onbeforeload' in check) { var = false; document.addEventListener('beforeload', function(e) { if (e.target === check) { = true; } else if (!e.target.hasAttribute('nomodule') || !) { return; } e.preventDefault(); }, true); check.type = 'module'; check.src = '.'; document.head.appendChild(check); check.remove(); } }());

Y gân 'drill' Gymraeg sydd wedi mynd yn feiral

  • Cyhoeddwyd
Toda OgunbanwoFfynhonnell y llun, Toda Ogunbanwo
Disgrifiad o’r llun,

Toda Ogunbanwo

Un bore ym mis Mehefin 2020 deffrodd Toda Ogunbanwo a'i deulu ym Mhenygroes, Gwynedd i arwydd swastika wedi ei baentio ar wal eu garej.

Ag yntau a'i deulu wedi byw yn y pentref ers 13 mlynedd, mae Toda'n dweud mai nid dyma oedd yr unig ddigwyddiad hiliol iddo brofi.

Rŵan, o dan yr enw Sage Todz mae'r rapiwr 22 oed yn ceisio gwneud synnwyr o brofiadau ei fagwraeth drwy ysgrifennu cerddoriaeth rap a hip-hop o'i stafell yn Llundain.

Ym mis Chwefror 2022 rhyddhaodd EP Sage Mode lle mae'n portreu ei brofiadau o hiliaeth a'i fagwraeth fel yr unig hogyn ifanc du yn Nyffryn Nantlle.

Mae o hefyd wedi rhyddhau fideo ar y we sy'n cynnwys drill yn yr iaith Gymraeg - sef math o gerddoriaeth hip-hop a rap - sydd wedi denu sylw miloedd ar filoedd ar draws Cymru, ac mae'n addo rhannu mwy.

Nid yw’r post yma ar X yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar X.
Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
I osgoi neges X gan Sage todz

Caniatáu cynnwys X?

Mae’r erthygl yma’n cynnwys elfennau sydd wedi eu darparu gan X. Gofynnwn am eich caniatâd cyn eu llwytho, oherwydd fe allai wneud defnydd o cwcis a thechnolegau eraill. Efallai y byddwch am ddarllen polisi cwcis X, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. I weld y cynnwys yma dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
Diwedd neges X gan Sage todz

Ond cyn hynny mae Toda yn awyddus i bobl glywed yr hyn sydd ganddo i'w rannu ar ei EP Saesneg - sef adlewyrchiad o realaeth ei fywyd fel person du yng Nghymru wledig.

'Dysgu yn gyflym'

"Mae o yn disgusting... rhywun yn trio ofni ni yn gwneud rwbath fel 'na," meddai Toda, wrth gofio yn ôl at ddigwyddiad y swastika.

"Mae 'na ddywediad yn Saesneg... It's the feather that broke the camel's back. Dyna oedd hwnna. Dwi wedi cael gwaeth a petha' lot fwy personol yn digwydd i fi fyny at hyn.

"Trwy plentyndod fi dwi di gwynebu dipyn o challenges a struggles. Dwi 'di experiencio rhai pethau sydd ddim mor dda i blentyn ddelio efo fo."

Toda OgunbanwoFfynhonnell y llun, Toda Ogunbanwo
Disgrifiad o’r llun,

Toda Ogunbanwo. Rhyddhaodd ei EP cyntaf 'Sparetime' yn 2020 sydd hefyd yn bortread o fywyd unig fel plentyn du yng ngogledd Cymru

Pan symudodd teulu Toda o Essex i Benygroes yn 2007, fuodd rhaid i Toda, sydd bellach yn ei flwyddyn olaf yn astudio cwrs chwaraeon yng Ngholeg Brunel yn Llundain "ddysgu yn gyflym" o oedran cynnar iawn.

"Roedd pobl yn galw fi yn yr 'N word', roedd pobl yn poeri yn dŵr fi ac isio cychwyn ffeits. Mae'r list yn mynd on ag on."

Mae cerddoriaeth erbyn hyn yn le iddo fynegi ei hun ac yn ofod iddo ryddhau'r teimladau chwerw yn ei galon.

"Rŵan dwi'n ddyn dwi'n gallu expressio'r teimladau 'ma mewn ffordd iachus drwy miwsig fi."

Toda OgunbanwoFfynhonnell y llun, Toda Ogunbanwo
Disgrifiad o’r llun,

Toda yn ei stafell yn Llundain

Sage Mode

Trwy EP Sage Mode clywn Toda yn trafod hiliaeth, ei hunaniaeth, Cymreictod, iechyd meddwl, teulu a'i ymgais i ddianc ardal lle na deimlodd groeso yn ystod ei blentyndod.

"Mae Sage Mode ynglŷn â'r pentra', a lle dwi'n dod o, sut dwi 'di cael fy magu a sut dwi 'di dysgu am fi fy hun a jest tyfu fel person mewn ardal eithaf gwahanol i ella oni'n ddisgwl," meddai Toda.

"Mae 'na wahaniaeth massive rhwng rwla fel Llundain a rwla fel Cymru - rhai pethau da, rhai pethau o'n i'n strugglo efo. Pethau fel bod yr unig berson du neu rhai o'r unig bobl Saesneg.

Toda OgunbanwoFfynhonnell y llun, Toda Ogunbanwo
Disgrifiad o’r llun,

Gyda'i ffrindiau yn Llundain yn ffilmio i gyfres Hansh GRID

"O'n i isho condensio rhai o experiences fi a teimladau fi. Mae gen i gân o'r enw 'Who Can I Be">