Iechyd menywod: Brwydro yn erbyn y 'bias'
- Cyhoeddwyd

Manon Mai Rhys-Jones ac Anna Cooper
"Ro'n i'n 21 ac yn gwybod os ydw i'n cyrraedd yr ysbyty, ma' 'na rhywun yn mynd i ffeindio rhywbeth mawr yn bod arna i."
Ym mis Mai 2009, er i Manon Mai Rhys-Jones ymweld â'r uned frys yn ogystal a dau ymweliad pellach gyda meddyg teulu, bu'n rhaid iddi aros tan ei bod hi'n ddifrifol wael er mwyn cael y diagnosis cywir.
Ar ôl wythnos o sgrechian mewn poen ac angen morffin, mae Manon yn sôn am ei theimladau pan holodd un o'r doctoriaid: "Wyt ti'n meddwl falle bod o yn dy ben di, y boen yma">