/** * https://gist.github.com/samthor/64b114e4a4f539915a95b91ffd340acc */ (function() { var check = document.createElement('script'); if (!('noModule' in check) && 'onbeforeload' in check) { var = false; document.addEventListener('beforeload', function(e) { if (e.target === check) { = true; } else if (!e.target.hasAttribute('nomodule') || !) { return; } e.preventDefault(); }, true); check.type = 'module'; check.src = '.'; document.head.appendChild(check); check.remove(); } }());

Yr Eisteddfod: 'Dating agency' gorau Cymru!

  • Cyhoeddwyd
Pynciau cysylltiedig
Lluniau o bedwar cwpwl

Mae'r Cymry yn caru'r Eisteddfod am nifer o resymau - seremonïau'r Orsedd, cyfarfod hen ffrindiau, gigs... a ffeindio partner am oes.

Wedi i'r awdur Jon Gower drydar ei fod yn dathlu ugain mlynedd o berthynas hapus gyda Sarah Hill ers ei chyfarfod ar Y Maes yn Ninbych yn 1991, fe alwodd y Brifwyl yn 'dating agency gorau'r genedl'.

Ac o'r ymateb, mae'n ymddangos bod nifer yn cytuno!

line

Jon Gower

Jon Gower a Sarah HillFfynhonnell y llun, Llun teulu/Emyr Jenkins

Ar ddydd Sadwrn cyntaf yr Eisteddfod yn Ninbych yn 2001 es i gyfweld Sarah Hill am ei gwaith 'da Tŷ Cerdd. Wnes i fwynhau sgwrsio gyda hi ac o hynny mlaen roeddwn yn galw mewn i'r stondin bob dydd am baned.

Ar y nos Iau aethom am ginio yn Llandudno ac ar y dydd Gwener bu'n cyfaill Tony Bianchi yn holi pwy oedd y fenyw 'na roedd Jon Gower yn cusanu ar y Maes!

Mae'n ugain mlynedd ers i Sarah a minnau gwrdd a 'dy'n ni heb gwmpo mas am unrhyw beth fyth ers hynny. Ac mae'r goeden eirin prin o Ddinbych a blannwyd yn ein gardd er mwyn cofnodi cwrdd yn 'Steddfod yn ffrwytho eleni am y tro cyntaf!

Nid yw’r post yma ar X yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar X.
Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
I osgoi neges X gan Heledd Angharad

Caniatáu cynnwys X?

Mae’r erthygl yma’n cynnwys elfennau sydd wedi eu darparu gan X. Gofynnwn am eich caniatâd cyn eu llwytho, oherwydd fe allai wneud defnydd o cwcis a thechnolegau eraill. Efallai y byddwch am ddarllen polisi cwcis X, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. I weld y cynnwys yma dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
Diwedd neges X gan Heledd Angharad
Trystan Evans a Beca BrychanFfynhonnell y llun, Llun teulu
Disgrifiad o’r llun,

Trystan Evans oedd un o'r rhai wnaeth ymateb i drydar Jon Gower. Fe wnaeth o gyfarfod Beca Brychan mewn gig gomedi Tudur Owen a Beth Angell yn ystod Eisteddfod y Faenol 2005, a'r wythnos yma roedden nhw'n dathlu 16 mlynedd gyda'i gilydd

Ion Thomas

Ion a LusaFfynhonnell y llun, Llun teulu
Disgrifiad o’r llun,

Ion a Lusa yn ôl yn yr Eisteddfod, yn Llanrwst 2019

Nid ar y maes y cwrddais i â'r ferch dlos wnaeth gipio fy nghalon yn yr Wyddgrug '91, ond mewn tafarn llawn o eisteddfodwyr swnllyd. Roedd hithau wedi penderfynu dianc o gig Rhiannon Thomas gyda'i ffrind Pwyll ap Sion ac yn eistedd yng nghornel y dafarn.

Roeddwn innau, os cofiaf wedi bod yn ymddiwyllio ym myd y theatr. Dysgais yn ddiweddarach i mi 'siarcio' fy ffordd tuag at y feinwen dlos. Mewn byr o dro, roeddem wedi gosod y seiliau am sgwrs a fyddai'n para' am oes.

Cofiaf adael y dafarn mewn criw gan anelu'n camre i'r gorlan goffi. Yno, wedi paneidio daeth y sylw addawol..."wel ble mae'r babell yma">