Cyfrifiad 2021: 'Angen mwy o gymorth ar gyn-filwyr'
- Cyhoeddwyd

Roedd Nigel Harvey yn ddigartref cyn i elusen roi cymorth iddo gael rhywle i fyw
Mae gwella bywydau cyn-aelodau o'r lluoedd arfog yn mynd i gymryd mwy na'u hadnabod drwy'r Cyfrifiad, medd rhai cyn-filwyr yng Nghymru.
Am y tro cyntaf bydd Cyfrifiad 2021 yn gofyn i drigolion y DU a ydyn nhw'n gyn-aelodau o'r lluoedd, yn dilyn ymgyrch gan elusennau milwrol.
Mae rhai wedi dweud wrth BBC Cymru na chawson nhw unrhyw gefnogaeth wrth ddychwelyd i fywyd bob dydd ar ôl gadael y lluoedd.
Dywedodd Llywodraeth y DU fod y rhan fwyaf yn dychwelyd i fywyd bob dydd yn llwyddiannus.
Cafodd gais i'r Weinyddiaeth Amddiffyn am filwr oedd wedi dychwelyd i fywyd bob dydd a chael cefnogaeth yn llwyddiannus ei wneud ond dywedon nhw nad oedd yn bosib gwneud hyn o fewn amser cyhoeddiad yr erthygl.
Bydd cwestiwn newydd ar y Cyfrifiad, a fydd yn digwydd dan oruchwyliaeth y Swyddfa Ystadegau Gwladol (ONS) ar 21 Mawrth, yn gofyn: "A ydych chi wedi gwasanaethu yn lluoedd arfog y DU yn y gorffennol">