/** * https://gist.github.com/samthor/64b114e4a4f539915a95b91ffd340acc */ (function() { var check = document.createElement('script'); if (!('noModule' in check) && 'onbeforeload' in check) { var = false; document.addEventListener('beforeload', function(e) { if (e.target === check) { = true; } else if (!e.target.hasAttribute('nomodule') || !) { return; } e.preventDefault(); }, true); check.type = 'module'; check.src = '.'; document.head.appendChild(check); check.remove(); } }());

Lle i enaid gael llonydd: Nia Parry

  • Cyhoeddwyd
Nia PARRY

Y gyflwynwraig Nia Parry sy'n mynd â ni i le tawel i gael llonydd, sy'n lleol iddi hi:

line

Y tro cyntaf i mi weld Dinas Dinlle oedd allan o ffenest hofrennydd wrth ffilmio rhaglen ddogfen nôl yn 2010. Mi oedden ni newydd roi ein tŷ yng Nghaerdydd ar werth a'n golygon ar ddod nôl i'r gogledd i fyw.

Wrth hedfan rhwng môr a mynydd dwi'n cofio teimlo rhyw sicrwydd mai i'r patshyn yma o dir y byddwn ni'n dod i ymgartrefu.

Dinas DinlleFfynhonnell y llun, Nia Parry

Flynyddoedd yn ddiweddarach ac mae Dinas Dinlle yn dal i fod yn agos at fy nghalon ac yn rhywle sy'n frith o atgofion hapus o nofio yn y môr, cwrdd â ffrindiau i gerdded efo'r babis mewn coetsys, mynd â'r ci am dro.

Adeiladu cestyll tywod, bwyta chips ar y traeth, yfed paneidiau a sgwrsio ym Mwyty Lleu, cerdded dros y bryncyn ac edrych draw am yr Eifl a dysgu'r plant i feicio ar y rhodfa.

Y lle cyntaf aethon ni fel teulu ar ôl i'r cyfnod clo ddod i ben oedd traeth Dinas Dinlle ar fachlud haul i dostio malws melys... ac i anadlu aer y môr. Dyma'r lle mae fy enaid i'n cael llonydd.

Hedd ei mabFfynhonnell y llun, Nia Parry
Disgrifiad o’r llun,

Mae Hedd, ei mab, hefyd yn mwynhau llonyddwch Dinas Dinlle

Hefyd o ddiddordeb:

Pynciau cysylltiedig