/** * https://gist.github.com/samthor/64b114e4a4f539915a95b91ffd340acc */ (function() { var check = document.createElement('script'); if (!('noModule' in check) && 'onbeforeload' in check) { var = false; document.addEventListener('beforeload', function(e) { if (e.target === check) { = true; } else if (!e.target.hasAttribute('nomodule') || !) { return; } e.preventDefault(); }, true); check.type = 'module'; check.src = '.'; document.head.appendChild(check); check.remove(); } }());

'Straeon arswydus' am ddiffyg offer diogelwch ysbytai

  • Cyhoeddwyd
PPEFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae cyfarpar diogelwch PPE yn cynnwys mygydau, menig, a dillad, er mwyn ceisio atal ymlediad yr haint.

Mae undebau yn clywed "straeon arswydus" am ddiffyg cyfarpar diogelwch PPE ar gyfer gweithwyr y Gwasanaeth Iechyd yn ôl un llefarydd.

Daw hyn wrth i Iechyd Cyhoeddus Cymru gyhoeddi fod 15 person wedi marw o achos COVID-19 yng Nghymru yn y 24 awr diwethaf, gan ddod a chyfanswm y marwolaethau i 384.

Daeth cadarnhad hefyd bod 313 person yn ychwanegol wedi profi'n bositif i COVID-19 yng Nghymru dros yr un cyfnod. Daw hynny a chyfanswm yr achosion positif i 5,610, ond mae meddygon yn tybio hefyd bod y nifer go iawn y uwch na hynny mewn gwirionedd.

Pryder am ddiffyg cyfarpar

Dywed Shavanah Taj, o TUC Cymru, fod nyrs arweiniol mewn ysbyty ger Caerdydd wedi gorfod chwilio am gogls arlein, gan fod dim ond digon i bedwar nyrs allan o 40 ar gael.

Mae TUC Cymru, sydd yn cynrychioli llu o undebau Cymreig, wedi galw am well eglurder am y ddarpariaeth o offer diogelwch i staff.

Dywedodd cyfarwyddwr meddygol Bwrdd Iechyd Caerdydd a'r Fro fod ysbytai'n derbyn digon o gyfarpar diogelwch PPE ar hyn o bryd.

Ond mae Ms Taj, ysgrifennydd cyffredinol TUC Cymru, wedi galw ar i "arolygwyr annibynnol fynd allan a sicrhau fod y cyflenwadau'n cyrraedd y llefydd lle mae eu hangen."

PPEFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae TUC a BMA Cymru wedi cyhoeddi llythyr ar y cyd i Lywodraeth Cymru am sefyllfa cyfarpar PPE

'Archebu ar Amazon'

Dywedodd wrth BBC Radio Wales fore dydd Llun: "Rydym yn clywed straeon arswydus nawr, o ran gweithwyr rheng flaen y Gwasanaeth Iechyd a gweithwyr gofal cymdeithasol sy'n brwydro coronafeirws."

Dywedodd fod meddyg wedi cysylltu gyda TUC Cymru am ward "Covid positif" yn cael ei sefydlu yn Ysbyty Llanddochau, ger Caerdydd.

"Fe ddywedodd fod nyrs arweiniol o'r ward ar wefan Amazon ar hyn o bryd, yn ceisio gweld os oedd modd cael gafael ar gogls garddio, gan mai dim ond pedwar feisor rhwng 40 sydd yno, heb ystyried pobl eraill.

"Felly roedd yn ofnus iawn a phryderus iawn."

Roedd y sefyllfa yn yr ysbyty "wedi gwella rhywfaint" ers hynny, meddai.

Mwy am coronafeirws
Mwy am coronafeirws

Dywedodd Llywodraeth Cymru dros y penwythnos ei fod wedi darparu "8,000,000 darn ychwanegol o gyfarpar diogelwch PPE".

Galwodd Ms Taj am fwy o fanylion: "Ble mae'r stoc yn cael ei gadw nawr, sut mae'n cael ei archebu, pa fath o fygydau a gwisgoedd diogelwch sydd wedi cael eu harchebu">