/** * https://gist.github.com/samthor/64b114e4a4f539915a95b91ffd340acc */ (function() { var check = document.createElement('script'); if (!('noModule' in check) && 'onbeforeload' in check) { var = false; document.addEventListener('beforeload', function(e) { if (e.target === check) { = true; } else if (!e.target.hasAttribute('nomodule') || !) { return; } e.preventDefault(); }, true); check.type = 'module'; check.src = '.'; document.head.appendChild(check); check.remove(); } }());

Coronafeirws: Cau canolfan alwadau yng Nghaerdydd

  • Cyhoeddwyd
Sky Caerdydd
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r ganolfan alwadau ar Stryd Tyndall yn ardal Tre-biwt y brifddinas

Cafodd gweithwyr mewn canolfan alwadau Sky yng Nghaerdydd eu hanfon adref ddydd Mawrth wedi i'r cwmni ddweud bod aelod o staff â coronafeirws.

Cafodd y swyddfa ar Stryd Tyndall ei chau am 14:30 brynhawn Mawrth er mwyn cael ei glanhau ac ni fydd yn ailagor nes dydd Iau.

Roedd yr aelod o staff wedi bod yn hunan ynysu am rai dyddiau cyn i Sky ddweud bod yr haint wedi'i gadarnhau.

Ond yn dilyn ymchwiliad ar y cyd â Iechyd Cyhoeddus Cymru dywedodd Sky ddydd Mercher nad oedd yr aelod o staff wedi cael yr haint.