Byw gyda'r boen o golli golwg
- Cyhoeddwyd
Ddydd Llun, roedd Bethan Richards ac Anya Gwynfryn yn siarad yn agored am y ffaith eu bod nhw'n colli eu golwg, yn y rhaglen Agoriad Llygad ar BBC Radio Cymru.
Mae Bethan Richards, a oedd yn canu gyda'r band Diffiniad yn y 1990au wedi colli ei golwg yn llwyr mewn un llygad, a'r llall bellach yn dirywio. Mae'n siarad am y profiad o fyw gyda'r cyflwr a'r heriau o fagu plant:

Dwi'n diodde' o ddirywiad y cornea, sy' wedi dod â glawcoma yn ei sgil, a sy' wedi golygu fy mod i wedi colli golwg yn gyfan gwbl yn fy llygad chwith ac yn raddol colli ngolwg yn fy llygad dde, sy'n mynd i fynd yn gyfan gwbl dros amser.
Dros y blynyddoedd, ers pan o'n i'n fabi, dwi wedi cael triniaethau gan gynnwys tri trawsblaniad y cornea yn fy llygad chwith, ond yn anffodus y dair gwaith, wnaethon nhw ddim gweithio. Does dim mwy o driniaethau maen nhw'n gallu eu rhoi i fi ar y llygad yna, wedyn yn y llygad dde gan bod honno wedi gwanhau gymaint, byddai unrhyw driniaeth yn honno yn sicr o fethu, felly mae'n ormod o risg.
Pan o'n i'n cyfarfod pobl am y tro cynta' pan o'n i'n fach, y peth cynta' o'n nhw'n ei weld oedd y sbectol. A dwi'n cofio mynd ar wyliau a gwybod bod pobl yn rhythu arna i am bod fy sbectol i mor dew, roeddet ti'n clywed pobl yn bod yn gas, hyd yn oed oedolion.
Wedyn pan ffeindies i lenses, es i'r pegwn arall, lle o'n i ddim yn dweud wrth neb [mod i'n colli fy ngolwg], achos o'n i byth eisiau mynd nôl i'r teimlad 'na oedd gen i yn yr ysgol. 'Sen i byth bythoedd yn mynd nôl 'na, oedd e'n ofnadwy. Dwi ddim yn meddwl wnes i erioed ddweud [wrth fy rhieni] pa mor boenus ac anodd oedd mynd i'r ysgol.
Dwi ddim yn gallu dreifio, a pryd wnaeth e fwrw fi yn fwy na dim oedd pan ges i'r plant. Dwi ddim yn gallu mynd â nhw am day trips fel rhieni eraill, dwi ddim yn gallu pigo nhw lan o'r ysgol yn y car.
Bydde' fe wedi bod yn lot rhwyddach i fi i anfon fy mhlant i ysgol Saesneg achos ei fod lawr y rhewl o'r tŷ, ond chware teg i fy ngŵr i, mae e 'di bod yn gefn mawr i fi, dyma fe'n dweud "fi'n gwbod pa mor bwysig yw hi i ti anfon y plant i ysgol Gymraeg, wnawn ni ffeindio ffordd". Mae'n anodd, ond ti'n ffeindio ffordd.
Blynyddoedd tawel
O'n i'n arfer bod yn y band Diffiniad, ac oedd e'n gyfnod anhygoel o gigio, gwneud fideos teledu, perfformiadau byw... allen i ddim fod wedi dymuno cael mwy o brofiadau mewn deng mlynedd o'm mywyd i, oedd e'n hollol wych. Wrth gwrs oedd y cyflwr yma gyda fi a dwi'n galw'r cyfnod y 'blynyddoedd tawel', achos d'on i ddim wedi dweud wrth neb.
O'n i am i bobl fy 'nabod i fel cantores Diffiniad, nid fel cantores Diffiniad oedd methu gweld yn iawn. Er mod i'n ymddangos yn hyderus ar y llwyfan, yn aml iawn ro'n i'n poeni, yn arbennig os o'n ni'n cael ein ffilmio.
Do'n i ddim yn hoffi cael camera ar fy wyneb a lluniau wedi eu tynnu ohona i, achos o'n i'n becso bydde fe'n dod yn amlwg bod rhywbeth mawr yn bod ar fy llyged i. Ond mi oedd e hefyd yn rhoi elfen arall i mywyd i, pan o'n i'n dechre canu o'n i'n anghofio, ac o'dd dim byd arall yn bwysig.
Mae pethau wedi newid yn sylweddol yn y bum mlynedd diwetha'. Dwi'n diodde' lot fawr o boen yn ddyddiol, sydd yn mynd yn waeth ac yn waeth, mae'n effeithio ar fy nghwsg a dwi'n gorfod cymryd lot fawr o feddyginiaeth poen. Mae'n rhaid i fi gymryd morffin i fedru cau'r llygaid i fynd i gysgu. Ond ti'n dal yn gorfod codi a 'neud pethau pan ma' plant 'da ti!
Dwi ond yn gallu gweld golau a thywyllwch yn fy llygad chwith a dyna sy' wedi achosi i fi gael hyfforddiant ffon wen ac ystyried cael ci tywys. Dwi'n gwrthod gadael i'r ffaith mod i ddim yn gallu gweld stopio fi rhag 'neud dim byd.
Mae Anya Gwynfryn Evans yn dweud bod byw gyda chyflwr sy'n gallu arwain at golli golwg wedi cyfrannu at deimladau o iselder.

Mae'r cyflwr Retinitis pigmentosa sydd gen i yn effeithio ar y llygaid dros gyfnod hir o amser. Dydw i ddim wedi colli fy ngolwg i; ddim y golwg canolig, ond dwi wedi colli'r golwg ymylol, perifferol. Mae'n gyflwr sy'n gallu arwain at golli golwg yn gyfan gwbl.
Dwi'n cofio chware pêl gyda mrodyr i'n yr ardd pan o'n i'n blentyn, a fel yr un fengach, r'on i'n gorfod mynd i chwilio am y bêl. Roedden nhw'n mynd yn frustrated achos o'n i'n chwilio am oesodd a dwi'n cofio teimlo'r dryswch yma 'pam nad ydw i'n gallu gweld y pethe 'ma sy'n amlwg reit o fy 'mlaen i">