Mari Lovgreen: Sut mae'n teimlo 'go iawn' i fod yn fam?
- Cyhoeddwyd

Mari Lovgreen (dde) a'i ffrind Ffion Griffiths (ail o'r chwith) sydd wedi cyd-ysgrifennu'r rap Bod yn Fam
"O'n i'n arfar gwthio limits, rŵan dwi'n pwshio pram..." meddai'r cyflwynydd Mari Lovgreen yn bwdlyd wrth rapio mewn fideo newydd.
Mae ei thafod yn ei boch yn y fideo 'Bod yn Fam', dolen allanol sy'n portreadu ei bywyd newydd llai cynhyrfus hi a'i ffrind Ffion Griffiths fel mamau sy'n boddi mewn clytiau, croen banana a chaneuon am gyfri'r bysedd.
Mae'r gân a'r fideo yn cyd-fynd efo cyhoeddi llyfr newydd Mari Lovgreen, Brên Babi, lle mae hi'n trafod sawl agwedd ar ddod yn fam gan gynnwys ei phrofiad ei hun o gael y baby pinks ar ôl geni ei phlentyn cyntaf.
Llwyddodd Cymru Fyw i fachu sgwrs efo hi (ar ôl i'r plant fynd i'w gwlâu)...
Mari, be' yn union mae 'brên babi' yn ei olygu?
Jahdhdkjwnekwojdbwksnebjwidbwn ;)
O diar, ydy pethau mor ddrwg ag mae'n swnio yn y gân rap a'r fideo?
Nadi siŵr! 'Chydig o hwyl ydy'r rap i drïo troi'r pethau stressful am fod yn fam yn jôc.
Mae hiwmor mor bwysig mewn bywyd dwi'n meddwl!
Yn aml iawn mi wnâi ffonio ffrind i gael rant bach am rywbeth oedd wedi ngwylltio i neu ngyrru i i grïo oriau ynghynt. Ond fel arfer 'dan ni'n chwerthin erbyn diwedd y sgwrs.

Ychydig o bling i'r mamau blinedig! Ed Holden sydd wedi cyfansoddi'r gerddoriaeth i'r gân Bod Yn Fam
Pam est ti ati i gyhoeddi llyfr, a llyfr am be ydy o?
Mae'r llyfr yn canolbwyntio ar y profiad o ddod yn fam am y tro cynta' - y newid byd hollol boncyrs hwnnw.
Es i ati i holi fy ffrindiau am eu profiadau a'u teimladau hollol onest nhw - o'r trïo am fabi, i'r beichiogrwydd, y geni, dyddiau cynnar, eich corff a'ch perthynas ac yn y blaen.
Ro'n i'n teimlo'n bod ni byth yn cael cyfle i rannu sut 'dan ni'n teimlo go iawn ar ôl cael babi.
'Dan ni gyd yn rhannu lluniau hapus a doniol ar y gwefannau cymdeithasol, sy'n gallu gwneud i rywun deimlo reit ar goll os ydyn nhw'n cael diwrnod gwael neu'n ffeindio pethau'n anodd.
Mae o yn ein natur ni i ateb y cwestiwn "sut wt ti">