Prydau am ddim: 'Plant ddim yn bwyta' oherwydd stigma'
- Cyhoeddwyd

Mae rhybudd bod plant yn wynebu gorfod mynd heb fwyd oherwydd bod cynghorau'n cymryd rhy hir i gyflwyno systemau adnabod ôl bys ar gyfer prydau ysgol am ddim.
Roedd bron i 70,000 o ddisgyblion yn gymwys i dderbyn prydau ysgol am ddim yng Nghymru ym mlwyddyn academaidd 2015/16.
Ond mae'r AC Joyce Watson yn rhybuddio bod systemau hen ffasiwn mewn ysgolion yn arwain at fwlio disgyblion.
Dywedodd rhai o gynghorau Cymru bod systemau adnabod ôl bys yn cael eu cyflwyno.
'Dioddef oherwydd stigma'
Dros Gymru, mae nifer o systemau gwahanol yn cael eu defnyddio er mwyn darparu prydau am ddim, gan gynnwys cardiau heb arian, system biometreg neu systemau talu ar-lein.
Er bod galwadau yn 2014 i bob cyngor gyflwyno system ôl bys neu debyg, nid yw nifer wedi gwneud hynny.

Dywedodd AC Llafur dros Orllewin a Chanolbarth Cymru, Ms Watson, bod cynghorau yn cymryd rhy hir i weithredu systemau o'r fath, fyddai'n atal plant o deuluoedd tlawd rhag cael eu bwlio.
"Dwi'n poeni'n fawr am bobl ifanc yn dioddef oherwydd y stigma," meddai.
"Rydyn ni mewn sefyllfa lle mae llawer o deuluoedd yn defnyddio banciau bwyd.
"Os nad yw pobl ifanc yn derbyn y cynnig [o brydau am ddim] oherwydd bod y system yn tynnu sylw atyn nhw, yna pryd maen nhw'n bwyta">